image: Peter, consumer helpdesk

gwasanaeth i bawb: cyflwyniad i’r ombwdsmon

Rwy’n falch o helpu ...

Helo, Peter yw fy enw i ac rwy’n gweithio ar ein desg cymorth cwsmeriaid. Rwyf wedi bod yma ers blynyddoedd lawer erbyn hyn ac alla i ddim dychmygu unrhyw swydd well.

Rydyn ni’n derbyn miloedd o alwadau oddi wrth gwsmeriaid sydd eisiau trafod eu cwynion ariannol â ni – ac yn gofyn sut y dylen nhw symud  pethau ymlaen.

Gwn mor rhwystredig yw teimlo nad oes neb yn cymryd eich cwyn o ddifrif. Does dim ots a yw’r broblem yn fach neu’n fawr – rwy’n gwneud fy nghorau pob tro i symud pethau ymlaen ar gyfer y bobl rwy'n siarad gyda nhw.

Efallai y gallai hynny olygu rhoi cyfle i’r busnesau ariannol rydych yn anfodlon â nhw i ddatrys pethau ei hunan yn gyntaf. Neu y gallai olygu ein bod yn camu i mewn ac yn ymdrin â’r achos ein hunain.


Peter, llinell gymorth defnyddwyr