Cwynion am ein gwasanaeth

Rydym am ddarparu gwasanaeth cwsmer gwych ar eich cyfer, beth bynnag y bo canlyniad eich achos.

Mae'r dudalen hon yn esbonio sut mae cwyno am ein gwasanaeth i gwsmeriaid. Os byddwch yn anghytuno â’n hasesiad cychwynnol o’ch achos, neu os byddwch yn anhapus â phenderfyniad terfynol ombwdsmon, gweler sut rydym yn gwneud penderfyniadau i gael gwybodaeth am ein proses trafod achosion.

Rydym am ddarparu gwasanaeth cwsmer gwych ar eich cyfer. Ond os na fyddwch yn hapus â safon ein gwasanaeth, dylech ddweud wrthym: 

  • ar unrhyw adeg tra’n bod yn parhau i drafod yr achos
  • fewn tri mis i ddyddiad y gwnaethom roi ein hateb i’r partion sy’n ymwneud â’r gŵyn

Siarad â’ch trafodwr achos

Os byddwch yn dymuno cwyno am y gwasanaeth rydym wedi ei roi i chi, yn gyntaf dywedwch wrth yr unigolyn sydd wedi bod yn trafod eich achos. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddant yn gallu datrys pethau i chi’n syth. 

Os na fyddwch yn siŵr pwy i gysylltu ag ef/hi, ffoniwch ein llinell gymorth defnyddwyr ar 0800 0234 567. Byddant yn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun sy’n gallu helpu.

Dywedwch wrthym am:

  • yr hyn rydych yn dymuno cwyno amdano ynghylch ein gwasanaeth i gwsmeriaid - er enghraifft, os byddwch yn teimlo ein bod wedi achosi oedi diangen, heb eich cadw wedi’ch diweddaru neu gyfathrebu â chi’n amhriodol
  • manylion unrhyw gyfathrebu rydych wedi ei dderbyn oddi wrthym sy’n gysylltiedig â’ch cwyn
  • sut yr hoffech i ni ddatrys pethau

Unwaith ein bod yn gwybod pam eich bod yn anhapus, byddwn yn ceisio datrys pethau. Byddwn hefyd yn ceisio dysgu o’r hyn a ddywedoch wrthym, fel ein bod yn gallu gwella’r hyn y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol.

Gofyn i reolwr edrych ar y gŵyn

Os na fyddwch yn teimlo ein bod wedi datrys y broblem i chi, dywedwch wrth eich trafodwr achos yr hoffech i reolwr edrych ar y gŵyn. 

Bydd y swyddog a fydd yn gwneud hyn yn dibynnu ar yr hyn rydych yn anhapus yn ei gylch, ond byddwn yn sicrhau y bydd yn rhywun sy’n gymwys i fynd i’r afael â’ch pryderon.

Bydd y rheolwr yn eich ateb o fewn 15 niwrnod gwaith. Os bydd angen amser ychwanegol arnynt, byddant yn eich hysbysu ac yn esbonio pam.

Ni fydd y rheolwr yn adolygu canlyniad eich achos, ond byddant yn ceisio unioni pethau lle y bo’n bosibl.

Yr aseswr annibynnol

Os bydd rheolwr wedi ymateb i’ch cwyn ond eich bod yn parhau’n anhapus, gallwch gysylltu â’r aseswr annibynnol.

Penodir yr aseswr annibynnol gan ein bwrdd ac mae ganddynt gylch gorchwyl swyddogol sy’n nodi sut a phryd y bydd aseswr annibynnol yn ystyried cwyn. Mae’r aseswr annibynnol yn cynhyrchu  adroddiad blynyddol i’r bwrdd, sy’n nodi’r canfyddiadau a’r argymhellion a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn.

Bydd yr aseswr annibynnol yn cynnal ei adolygiad annibynnol ei hun o’r gwasanaeth a roddom i chi. Os bydd yn meddwl bod ein gwasanaeth yn foddhaol, bydd yn dweud wrthych pam. Os bydd yn teimlo nad oedd, bydd yn esbonio pam ac yn argymell yr hyn y dylem ei wneud i ddatrys pethau. 

Mae'r aseswr annibynnol yn adolygu cwynion am safon ein gwasanaeth. Ni fydd yn adolygu canlyniad eich achos.

Information

Noder: mae swyddfa’r aseswr annibynnol mewn cyfnod o bontio

Mae swyddfa’r aseswr annibynnol mewn cyfnod o bontio. Mae tymor Ms Somal fel Aseswraig Annibynnol wedi dod i ben. Mae ein Haseswraig annibynnol newydd, y Fonesig Gillian Guy, yn cychwyn yn y swydd ddiwedd mis Hydref.   

Bydd swyddfa’r aseswr annibynnol yn parhau i weithredu ac ymateb i ohebiaeth; fodd bynnag, bydd peth oedi ynghylch cyflwyno adroddiadau’r aseswr annibynnol.