Cwynion y gallwn helpu yn eu cylch

Gallwn helpu â chwynion ynghylch y rhan fwyaf o fathau o gynnyrch ariannol a gwasanaethau a ddarperir yn neu o’r DU - o gasglu dyled a benthyciadau diwrnod cyflog i yswiriant, morgeisi a phroblemau gyda’ch cwmni rheoli hawliadau.

Pan fyddwch yn cysylltu, byddwn yn eich hysbysu os yw’r busnes yn un a gynhwysir gennym, ac os yw’r gŵyn am rywbeth y gallwn edrych arno.

  • PPI

    Os bydd cwyn gennych am yswiriant gwarchod taliadau (PPI), gallwn helpu. Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi gosod dyddiad cau o 29 Awst 2019 ar gyfer pob cwyn PPI  felly cysylltwch â ni cyn gynted â phosbl i leisio eich cwyn.

    PPI

  • Bancio a thaliadau

    Gallwn helpu ag amrywiaeth o gwynion am wasanaethau bancio a thaliadau, gan gynnwys cyfrifon cyfredol, cyfrifon cynilo, debydau uniongyrchol, awdurdodau taliadau parhaus, trafodion yr anghytunir amdanynt, a thwyll a sgamiau.

    Bancio a thaliadau

  • Yswiriant

    Gall problemau sy’n ymwneud ag yswiriant fod yn gymhleth a thechnegol. Byddwn yn edrych yn ofalus ar y manylion, yn pwyso a mesur y ffeithiau ac yn helpu i ddatrys eich cwyn yn deg. Rydym yn edrych ar amrywiaeth eang o fathau o yswiriant, gan gynnwys yswiriant car, cartref, teithio ac anifeiliaid anwes.

    Yswiriant

  • Benthyciadau a mathau eraill o gredyd

    Gall problemau gyda benthyciadau a chredyd achosi llawer o ofid. Gallwn edrych ar gwynion sy’n ymwneud â gwahanol fathau o fenthyciadau a chredyd, gan gynnwys benthyciadau diwrnod cyflog, cardiau siopau a nwyddau a gwasanaethau a brynwyd gan ddefnyddio credyd.

    Benthyciadau a mathau eraill o gredyd

  • Morgeisi

    Rydym yn gweld amrywiaeth eang o gwynion ynghylch morgeisi, o broblemau gyda cheisiadau i anghydfodau am gostau ad-dalu cynnar. Yn ogystal âmorgeisi preswyl, gallwn helpu â chwynion am forgeisi dibreswyl.

    Morgeisi

  • Buddsoddiadau

    Gallwn ddatrys cwynion am amrywiaeth o fuddsoddiadau o fondiau a deilliannau i PEPs a gwaddolion. Byddwn yn edrych yn deg ac yn ddiduedd yngylch sut y gwerthwyd y buddsoddiad i chi, a sut y cafodd ei drafod.

    Buddsoddiadau

  • Pensiynau a blwydd-daliadau

    Mae cwynion rydym yn eu gweld ynghylch pensiynau a blwydd-daliadau’n cynnwys problemau gydag addasrwydd cyngor ac oedi. Byddwn yn ymchwilio i gwynion, gan gynnwys materion y gweithle a phensiynau personol – ond mewn rhai achosion, byddwn yn eich cyfeirio at yr Ombwdsmon Pensiynau.

    Pensiynau a blwydd-daliadau

  • Cwynion eraill

    Gallwn hefyd edrych ar gwynion ynghylch pethau eraill amrywiol sydd wedi cael effaith ariannol negyddol ar gwsmeriaid. Mae enghreifftiau’n cynnwys problemau gydag atwrneiaeth a materion TG gyda’ch banc sy’n effeithio mynediad at eich arian.

    Cwynion eraill