Sut mae cwyno

Mae dod â chwyn at ein sylw’n syml ac ni fydd yn costio dim i chi. 

Mae'r dudalen hon yn esbonio sut y gallwch wneud cwyn am fusnes ariannol, ac yn rhoi amlinelliad o’n proses.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gwynion am fusnes ariannol neu gwmni rheoli hawliadau (CMC), gweler y llinell amser isod i ddysgu sut mae cwyno. Os ydych yn fusnes bach a bod gennych gŵyn i'w gwneud am ddarparwr gwasanaeth ariannol, gweler ein gwefan Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol ar gyfer Busnesau Bach i ddysgu sut y gallwn helpu.. 

1

Siaradwch â’r busnes ariannol/CMC yn gyntaf

Dylech roi cyfle i’r busnes ariannol neu CMC ddatrys pethau cyn dod â’ch cwyn atom.

Gadewch iddynt wybod beth yw’r broblem, a sut yr hoffech iddynt ddatrys pethau. Os na fyddwch yn siŵr sut mae gwneud hyn, cysylltwch â ni a gallwn helpu. Mae’n rhaid i'r busnes neu CMC roi eu hymateb terfynol o fewn wyth wythnos fan bellaf, gan ddibynnu ar yr hyn rydych yn cwyno amdano.

2

Os na fyddwch yn hapus o hyd, dewch â’ch cwyn atom

Os na fyddwch yn hapus â’r ymateb a gewch gan y busnes neu CMC   neu nad ydynt yn eich ateb - gallwch ofyn i ni weithredu.

Bydd angen i chi gysylltu â ni o fewn chwe mis o dderbyn ymateb terfynol y busnes i’ch cwyn (er bod rhai eithriadau i’r rheol hon   dysgwch fwy am derfynau amser sy’n effeithio ar eich cwyn).

Pan fyddwch yn cysylltu, bydd angen i ni wybod:

  • peth gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad
  • beth yw’r broblem, a sut yr hoffech gywiro pethau
  • manylion megis rhif y polisi neu rif y cyfrif mae eich cwyn yn ymwneud ag ef

Os byddwch yn dymuno i ni siarad ag aelod o’ch teulu neu ffrind   neu rywun arall sy’n eich helpu, megis Cyngor ar Bopeth   byddwn yn hapus i wneud hynny.

3

Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn

Unwaith i ni sicrhau bod eich cwyn yn rhywbeth y gallwn helpu â hi, byddwn yn dechrau ymchwilio.

Pan fyddwn yn ymchwilio i’ch cwyn byddwn yn:

  • gofyn i’r busnes am eu hochr nhw o’r stori
  • pwyso a mesur y ffeithiau ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd, yn deg ac yn ddiduedd

     

4

Byddwn yn eich hysbysu am ein barn

Unwaith y byddwn wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn eich hysbysu am ein barn.

Os byddwn yn meddwl bod camddealltwriaeth wedi digwydd yn unig  neu nad ydych wedi bod ar eich colled yn ariannol - byddwn yn esbonio pam. Ond os byddwn yn penderfynu eich bod wedi'ch trin yn annheg, byddwn yn dweud wrth y busnes neu CMC i gywiro pethau. Rydym yn gallu datrys y rhan fwyaf o gwynion yn y modd hwn.

5

Os byddwch yn dymuno mynd â phethau ymhellach

Os byddwch chi neu’r busnes yn anghytuno a’n hasesiad cychwynnol ynghylch eich cwyn, gallwch chi (neu’r busnes neu CMC) ofyn am benderfyniad terfynol gan un o’n hombwdsmyn.

Bydd ein hombwdsmyn yn edrych ar bethau o’r newydd, a bydd ganddynt y pŵer i wneud penderfyniadau terfynol cyfreithiol rhwymol. Os byddwch yn gwrthod penderfyniad terfynol yr ombwdsmon, ni allwn fynd a’ch cwyn ymhellach - ond gallwch fynd i’r llys o hyd yn lle hynny.

6

Cywiro pethau

Os byddwn yn penderfynu bod y busnes wedi gwneud rhywbeth yn anghywir, byddwn yn gofyn iddynt gywiro pethau.

Gallwn wneud hynny mewn nifer o ffyrdd - gan gynnwys talu iawndal i chi

Gwneud cwyn

  • Ffonio ein llinell gymorth

    Mae ein llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener. Weithiau, efallai bydd angen i chi aros i siarad â rhywun. 

    0800 023 4567

    Ein ffonio

  • Gwneud cwyn ar-lein

    Gallwch wneud cwyn wrth ddefnyddio un o’n ffurflenni cwyn ar-lein, gan gynnwys cwynion am fusnesau ariannol, cwynion am PPI neu gyfrifon banc â phecyn. 

    Cwyno ar-lein

Gwneud ymholiad cyffredinol

Dysgwch fwy am gysylltu a ni, os bydd ymholiad gennych am gŵyn barhaus.


Dod o hyd i’n manylion cyswllt 

Yr hyn i'w ddisgwyl

Yr hyn i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi dod â’ch achos atom.


Dysgu mwy