Cael help gyda'ch cwyn

Os ydych chi angen help i wneud eich cwyn, rhowch wybod i ni. Rydym yn hapus i esbonio pethau dros y ffôn ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein gwaith.

Sut allwn ni eich helpu

  • Os nad ydych chi'n siŵr sut i gwyno i’r busnes, ffoniwch ni a gallwn drafod y drefn gyda chi – neu gallwn gysylltu â’r busnes ar eich rhan.
  • Os hoffech chi i ni siarad gydag aelod o'ch teulu, neu ffrind – neu rywun arall sy'n eich helpu chi, fel Cyngor ar Bopeth – rydym yn hapus i wneud hynny.
  • Os ydych chi eisiau siarad gyda ni – neu gael gwybodaeth – mewn iaith arall, gallwn ddefnyddio cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd. Dysgwch fwy am gyfathrebu gyda ni mewn ieithoedd eraill.
  • Gallwn hefyd gyfathrebu gyda chi yn defnyddio pethau fel testun mawr, Braille, Iaith Arwyddion Prydain neu Destun Cenhedlaeth Nesaf. Dysgwch fwy am sut ydyn ni'n gwneud ein gwasanaeth yn hygyrch i gwsmeriaid gydag anghenion atodol.
  • Os oes gennych chi unrhyw angen ymarferol neu anabledd arall, cysylltwch â ni a rhoi gwybod i ni sut allwn ni helpu.